The poster for an art event “Dasvydanija” Black Dog Bookstore in Vilnius, Lithuania.

“Thank you for your wonderful contribution in designing a quirky poster for our bookstore event! We truly appreciate your talent and hard work!”  

-The Black Dog  

I have a passion for working on non-commercial projects, and one of my most meaningful experiences was designing a poster for an art event at the Black Dog Bookstore in Vilnius, Lithuania. The bookstore faced the challenge of dealing with over 7,000 unwanted Russian-language books, and to address this, they organized a unique event to give them away for free. This initiative was about more than just clearing space—it was an opportunity to engage the community in conversations about the cultural value and relevance of these books. Many of them, once seen as repositories of knowledge and history, had become symbols of a painful past, their significance fading with time.  

For the poster’s concept, I drew inspiration from the traditional Russian dance, “The Little Birch,” which often symbolizes farewell. This imagery became central to the design, capturing the idea of cultural shifts and the delicate balance between preserving history and moving forward. In the final piece, I used the word “goodbye” in Russian, but instead of using the Cyrillic alphabet, I transliterated it into the Lithuanian alphabet. This represented a younger generation’s growing disconnect from the Russian language—once a dominant cultural force, now increasingly tied to memories of war and trauma. As the word fades in the design, it reflects the gradual erasure of meaning and identity, much like these discarded books, whose once brilliant ideas are now lost to time and memory.  

The project became a meditation on how cultures evolve and how history can be both preserved and forgotten, often shaped by the forces of time, memory, and trauma. Through the poster, I sought to evoke these layers of meaning and invite reflection on the ways we engage with our past.  

Skills: Concept development, Illustration, poster design, storytelling, collaboration, communication 

Poster ar gyfer digwyddiad celf “Dasvydanija” Siop Lyfrau’r Ci Du yn Vilnius, Lithwania. 

“Diolch am dy gyfraniad hyfryd yn dylunio poster unigryw ar gyfer digwyddiad ein siop lyfrau!  Rydyn ni’n wirioneddol werthfawrogi dy waith caled a dy dalent!” 

- Y Ci Du 

Rwy wrth fy modd yn gweithio ar brosiectau anfasnachol, ac un o fy mhrofiadau mwyaf ystyrlon oedd dylunio poster ar gyfer digwyddiad celf yn Siop Lyfrau Juodas šuo (y Ci Du) yn Vilnius, Lithwania. Roedd gan y siop lyfrau dros 7,000 o lyfrau iaith Rwseg dros ben nad oedd eu heisiau mwyach, ac er mwyn delio â’r her hon, fe drefnodd y siop ddigwyddiad unigryw i roi’r llyfrau i ffwrdd am ddim. Roedd a wnelo’r fenter hon â mwy na dim ond rhyddhau lle — roedd yn gyfle i ennyn diddordeb y gymuned mewn sgyrsiau am werth diwylliannol a pherthnasedd y llyfrau hyn. Roedd llawer ohonynt, gynt yn cael eu hystyried yn storfeydd o wybodaeth a hanes, wedi dod yn symbolau o orffennol poenus, a’u harwyddocâd yn pylu dros amser.  

Ar gyfer cysyniad y poster, cefais ysbrydoliaeth o’r ddawns Rwsiaidd draddodiadol, “Y Fedwen Fach,” sy’n aml yn symbol o ffarwelio. Daeth y ddelwedd hon yn ganolog i’r dyluniad, yn cynrychioli’r syniad o dreigl diwylliannol a’r cydbwysedd bregus rhwng bod yn driw i hanes a symud ymlaen. Yn y darn olaf, defnyddiais y gair “ffarwél” yn Rwseg, ond yn hytrach na defnyddio’r wyddor Syrilig, defnyddiais drawslythreniad yn yr wyddor Lithwaneg. Roedd hyn yn cynrychioli datgysylltiad cynyddol y to iau oddi wrth yr iaith Rwsieg — a fu unwaith yn rym diwylliannol dominyddol, ond sydd bellach yn cael ei gysylltu fwyfwy ag atgofion o ryfel a thrawma. Wrth i’r gair bylu yn y dyluniad, mae’n adlewyrchu diflaniad graddol ystyr a hunaniaeth, yn debyg iawn i’r llyfrau hyn a waredwyd a’u syniadau, gynt mor wych, sydd bellach wedi’u colli i amser.  

Daeth y prosiect yn fyfyrdod ar sut mae diwylliannau’n esblygu a sut gall hanes gael ei gadw a’i anghofio, hynny’n aml wedi’i siapio gan rymoedd amser, cof a thrawma. Drwy gyfrwng y poster, ceisiais ysgogi’r haenau hyn o ystyr a gwahodd y gynulleidfa i fyfyrio ar y ffyrdd rydyn ni’n ymwneud â’n gorffennol.  

Sgiliau: Datblygu cysyniadau, darlunio, dylunio posteri, adrodd straeon, cydweithio, cyfathrebu 

Previous
Previous

Large-scale mural for Full Colour Maindee Art Festival / Murlun ar gyfer Gŵyl Full Colour Maindee

Next
Next

Art & Design - MRes Cardiff Met University / Celf a Dylunio - MRes Prifysgol Met Caerdydd