Art and Design Research Cardiff Metropolitan University
“Inga’s MRes research fused art and science and drew out intriguing questions around human consciousness. Her research approach, coming from an art practice, enabled her to draw down upon phenomena that have previously been considered in isolation. She developed a lively, serious, and engaging interdisciplinary approach to sci-art research ideas which she brought together into a single creative and illuminating proposition for an experimental public gallery installation.
- Dr Stephen Thompson
While studying an MRes in Art and Design in 2020, I found myself interested in where science and art intersect, merge, blur, or combine. I’m curious to follow the circles connecting cognitive science, anthropology, physics, philosophy, biology, and art. I draw these together with my art practice around a field of research loosely called ‘consciousness studies’. While not easily disentangled when English is your second language, these ideas open up when studied with an artist’s eye and mind. My research project idea emerged when the memory was evoked by meeting a woman who believed that having her photograph taken would capture her soul. I was invited to support a local community to document the process of the Multicultural Healthy Recipes Book project by Cardiff Metropolitan University. The first cooking session started with the Somali community participants. I observed the participants and saw an exciting shot of an elderly lady making dough for Sabaayad (a traditional Somalian flatbread) through the camera lens. She did not notice me taking a photo, but she suddenly looked at the camera and started yelling at me in her native language. Another lady from the group approached me to apologize and explained that some people in her community still believe that taking a photo means ‘stealing the soul’. This experience profoundly impacted me, leading me to question whether photography could act as a mechanism to “capture the soul” or even detect or store consciousness. My research expanded to explore theories of consciousness within the frameworks of religion, panpsychism, neutral monism, biocentrism, art and science. I took a unique approach by designing four tests that positioned both the artwork and the observer as distinct yet equally significant elements of the experiment. Until today, I still research and focus on challenging and visually representing these experiences by analyzing the correlation between visual patterns and the observer’s perceptions. Can the consciousness be detected and stored in the artwork; does it have a physical weight?
Feel free to contact me to learn more about my research project.
Skills: Research, planning, photography and art theory, art and science, consciousness studies, presentations, public speaking, creative writing, workshops, seminar
Ymchwil Celf a Dylunio ͏Prifysgol Metropolitan Caerdydd
“Roedd ymchwil MRes Inga yn asio celf a gwyddoniaeth ac yn ennyn cwestiynau diddorol ynghylch ymwybyddiaeth ddynol. Roedd ei dull ymchwil, a oedd yn deillio o ymarfer celf, yn ei galluogi i gofleidio ffenomenau sydd wedi’u hystyried o’r blaen ar eu pennau eu hunain. Fe ddatblygodd ymagwedd ryngddisgyblaethol fywiog, ddifrifol a diddorol at syniadau ymchwil celfyddyd-wyddonol, a daeth â nhw ynghyd yn un cynnig creadigol a goleuedig ar gyfer gosodiad arbrofol mewn oriel gyhoeddus.”
- Dr Stephen Thompson
Wrth astudio ar gyfer MRes mewn Celf a Dylunio yn 2020, datblygais ddiddordeb yn y man y mae gwyddoniaeth a chelf yn cydblethu, yn uno neu ble mae’r ffin yn cymylu. Mae gen i ddiddordeb mewn dilyn y cylchoedd sy’n cysylltu gwyddoniaeth wybyddol, anthropoleg, ffiseg, athroniaeth, bioleg, a chelf. Rwy’n dod â’r rhain ynghyd gyda fy ymarfer celf o amgylch maes ymchwil sy’n cael ei alw’n fras yr ‘astudiaethau ymwybyddiaeth’. Er nad yw’n hawdd datblethu’r rhain pan mai ail iaith i chi yw’r Saesneg, mae’r syniadau hyn yn agor wrth eu hastudio drwy lygad a meddwl artist. Cefais y syniad ar gyfer fy mhrosiect ymchwil pan sbardunwyd y cof ar ôl cwrdd â menyw oedd yn credu y byddai cael tynnu ei ffotograff yn cipio’i henaid. Cefais wahoddiad i gefnogi cymuned leol i ddogfennu proses y prosiect Llyfr Ryseitiau Amlddiwylliannol Iach gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Dechreuodd y sesiwn goginio gyntaf gyda chyfranogwyr cymunedol Somali. Arsylwais y cyfranogwyr a gwelais lun cyffrous o fenyw oedrannus yn gwneud toes ar gyfer Sabaayad (bara gwastad traddodiadol o Somalia) drwy lens y camera. Wnaeth hi ddim sylwi arna i yn tynnu’r llun, ond yn sydyn edrychodd ar y camera a dechrau gweiddi arna i yn ei hiaith frodorol. Daeth dynes arall o’r grŵp ataf i i ymddiheuro ac eglurodd fod rhai pobl yn ei chymuned yn dal i gredu bod tynnu ffotograff yn golygu ‘dwyn yr enaid’. Gwnaeth y profiad hwn argraff ddofn arna i, gan beri i mi gwestiynu a allai ffotograffiaeth fod yn ffordd o “ddal yr enaid” neu hyd yn oed ganfod neu storio ymwybyddiaeth. Ehangodd fy ymchwil i archwilio damcaniaethau am ymwybyddiaeth o fewn fframweithiau crefydd, panseiciaeth, monyddiaeth niwtral, bioganoledd, celf a gwyddoniaeth. Fe es i ati mewn ffordd unigryw drwy ddylunio pedwar prawf a oedd yn lleoli’r gwaith celf a’r arsylwr fel elfennau gwahanol, ond yr un mor arwyddocaol, o’r arbrawf. Hyd heddiw, rwy’n dal i ymchwilio ac rwy’n canolbwyntio ar herio a chynrychioli’r profiadau hyn yn weledol drwy ddadansoddi’r gydberthynas rhwng patrymau gweledol a chanfyddiadau’r arsylwr. A ellir canfod a storio’r ymwybyddiaeth yn y gwaith celf; Oes pwysau corfforol iddo?
Mae croeso i chi gysylltu â mi i ddysgu mwy am fy mhrosiect ymchwil.
Sgiliau: Ymchwil, cynllunio, theori ffotograffiaeth a chelf, celf a gwyddoniaeth, astudiaethau ymwybyddiaeth, cyflwyniadau, siarad cyhoeddus, ysgrifennu creadigol, gweithdai, seminarau