Full Colour Maindee Mural Collaboration Inga Jast (Scenic Artist) and Inga K (Illustrator) 

“I absolutely love sharing the story of the two Ingas. It was a wonderful serendipity. I had known about Inga Jast for years. Her work with scenery and murals is fantastic. Then, I discovered Inga K illustrations, which are simply beautiful. I was especially drawn to the folkloric themes inspired by Lithuanian heritage. During the festival, I found myself constantly running up and down the scaffolding like a hamster in a cage, so I had to keep up with their progress mainly through social media. I loved seeing the sunny, happy photos and interaction with the public. It looked like a real pocket of joy on Maindee high street”. 

-Andy O’Rourke, Maindee Art Festival Curator

The idea for our collaboration occurred when Andy, the event organizer, unexpectedly paired us after noticing we shared the same names on the list. Although we are both from Lithuania and currently live in Wales, we have never met before. This beautiful Art Event brought us together. Inspired by our connection, we decided to share our ideas through a collaborative drawing. We incorporated Lithuanian and Welsh folk patterns to symbolize the differences and similarities in our cultures. For my part of the drawing, I proposed a personal touch that reflects the idea that the thoughts we hold become the home we live in. Regardless of where you’re from or where you live, your thoughts—your inner world—genuinely represent your home. The Welsh hat symbolizes the creative communities in Wales. The moving patterns are abstract shapes of flowers, and folk motifs represent imagination and creativity, connecting different cultures and the community. The moving lines merge with the other drawing and the text: “The words you speak become the house you live in,” by a Persian poet I recently discovered on a research project. Location-wise, I think it’s an excellent spot for a message, as it is visible from the bus stop, reminding viewers to pause and think about how powerful the words we think, speak, and create the home we live in. 

Skills: Project concept development, storytelling, planning, budget, illustration, large scale mural, collaboration, audience engagement 

Full Colour Maindee, Murlun creadigol ar y cyd rhwng Inga Jast (Artist Golygfa) ac Inga K (Darlunydd) 

“Dwi wrth fy modd yn rhannu hanes y ddwy Inga. Roedd yn gyd-ddigwyddiad hyfryd o ffodus. Ro’n i’n ymwybodol o Inga Jast ers blynyddoedd. Mae ei gwaith gyda golygfeydd a murluniau yn wych. Yna fe ddes i ar draws darluniau Inga K, sy jest yn ofnadwy o brydferth. Cefais fy nenu yn arbennig at themâu chwedlau gwerin wedi’u hysbrydoli gan dreftadaeth Lithwania. Yn ystod yr ŵyl, ro’n i i fyny ac i lawr y sgaffaldiau drwy’r dydd bob dydd fel bochdew mewn cawell, felly ro’n i’n dibynnu ar y cyfryngau cymdeithasol yn bennaf i weld sut roedd pethau’n mynd. Ro’n i wrth fy modd yn gweld y lluniau llachar llawen a’r sgyrsiau â’r cyhoedd. Roedd yn edrych fel llecyn o lawenydd ar stryd fawr Maendy”. 

-Andy O’Rourke, Curadur Gŵyl Gelf Maendy

Daeth y syniad ar gyfer ein cydweithrediad pan roddodd Andy, trefnydd y digwyddiad, ni gyda’n gilydd yn annisgwyl ar ôl sylwi ar y rhestr ein bod yn rhannu’r un enw. Er ein bod ni’n dwy o Lithwania ac yn byw yng Nghymru, doedden ni erioed wedi cwrdd o’r blaen. Daeth y digwyddiad celf hyfryd hwn â ni at ein gilydd. Wedi’n hysbrydoli gan y cysylltiad rhyngon ni, fe benderfynon ni rannu ein syniadau trwy greu darlun ar y cyd. Fe wnaethon ni ymgorffori patrymau gwerin o Lithwania a Chymru  fel symbol o’r hyn sy’n debyg ac yn wahanol rhwng ein diwylliannau. Ar gyfer fy rhan i o’r darlun, fe adlewyrchais y syniad ein bod yn gwneud ein cartref yn y meddyliau rydyn ni’n eu coleddu. O ble bynnag rydych chi’n dod neu ble bynnag rydych chi’n byw, mae eich meddyliau — eich byd mewnol — yn gartref go iawn i chi. Mae’r het Gymreig yn symbol o’r cymunedau creadigol yng Nghymru. Yn y patrymau sy’n symud, gwelir siapiau haniaethol o flodau, ac mae motiffau gwerin yn cynrychioli dychymyg a chreadigrwydd, gan gysylltu gwahanol ddiwylliannau a’r gymuned. Mae’r llinellau sy’n symud yn asio â’r darlun arall a’r testun: “The words you speak become the house you live in,” gan fardd Persiaidd a ddarganfyddais yn ddiweddar ar brosiect ymchwil. O ran lleoliad, rwy’n meddwl ei fod yn lle ardderchog ar gyfer neges, am ei fod i’w weld o’r safle bws, sy’n atgoffa’r gwylwyr i oedi a meddwl am ba mor bwerus yw’r geiriau rydyn ni’n eu meddwl, eu siarad ac yn eu defnyddio i greu’r cartref rydyn ni’n byw ynddo. 

Sgiliau: Datblygu cysyniadau prosiectau, adrodd straeon, cynllunio, cyllidebu, darlunio, murluniau ar raddfa fawr, cydweithio, ymgysylltu â chynulleidfa 

Previous
Previous

Penarth Lens Friends / Ffrindiau Lens Penarth

Next
Next

Poster for Black Dog book store / Poster ar gyfer siop lyfrau’r Ci Du