Penarth Lens Friends

“Inga K is a very talented and dedicated multidisciplinary artist with a strong work ethic who always gives her all. I have had the privilege of working with her on several projects including co-founding the local photography group Penarth Lens Friends. For over a year we hosted photography events together, invited local artists and focused on creativity, mindfulness and wellbeing. Through working with Inga I have learnt that the creative process and consistency can contribute to the success of any artistic endeavour. I will cherish all the memories we have made with the group and look forward to working with Inga in the future.”

-Sylwia Long 

I met Sylwia at the Creative Mornings Cardiff event in 2016. Eight years later, our friendship has grown into something special: a small art collective inspired by those early creative conversations. But our mission goes beyond just creating art—it’s about making a real impact in our community. We focus on raising awareness about mental health and promoting artistic dialogue, recognizing how creative expression and discussions around art can significantly benefit well-being. Art and photography offer an opening for self-expression, reduce stress, and create a sense of connection, which can positively influence mental health. We organize informal gatherings with local artists, visit galleries, and nature walks. Through our group, Lens Friends, members are empowered to explore their creative expression, build meaningful connections, and experience a sense of belonging and fulfilment. By cultivating a culture that values art, nature, and shared appreciation, we strive to enhance the well-being of our community. In doing so, we hope to inspire greater kindness, empathy, and a deeper connection to the world. 

Skills: event planning, administration, social media engagement, photography, workshops, community engagement, poster design, illustration, logo, volunteering, wellbeing 

Ffrindiau Lens Penarth  

“Mae Inga K yn artist amlddisgyblaethol talentog ac ymroddedig iawn sydd ag etheg gwaith gryf ac sydd bob amser yn rhoi o’i gorau. Dwi wedi cael y fraint o weithio gyda hi ar sawl prosiect, gan gynnwys cyd-sefydlu’r grŵp ffotograffiaeth lleol Ffrindiau Lens Penarth. Am dros flwyddyn buom yn cynnal digwyddiadau ffotograffiaeth gyda’n gilydd, yn gwahodd artistiaid lleol ac yn canolbwyntio ar greadigrwydd, meddwlgarwch a lles. Drwy weithio gydag Inga, dwi wedi dysgu y gall y broses greadigol ynghyd â chysondeb gyfrannu at lwyddiant unrhyw ymdrech artistig. Fe fydda i’n trysori’r holl atgofion rydyn ni wedi’u gwneud gyda’r grŵp a dwi’n edrych ymlaen at weithio gydag Inga yn y dyfodol.”

- Sylwia Long 

Fe wnes i gwrdd â Sylwia yn nigwyddiad Boreau Creadigol Caerdydd yn 2016. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae ein cyfeillgarwch wedi tyfu’n rhywbeth arbennig: grŵp bychan o ymarferwyr celf sydd wedi’u hysbrydoli gan y sgyrsiau creadigol cynnar hynny. Ond mae ein cenhadaeth yn mynd y tu hwnt i ddim ond creu celf — mae a wnelo â gwneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymuned. Rydyn ni’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a hybu deialog artistig, gan gydnabod sut gall mynegiant creadigol a thrafodaethau am gelf fod o fudd sylweddol i les. Mae celf a ffotograffiaeth yn cynnig agoriad i hunanfynegiant, lleihau straen a chreu ymdeimlad o gysylltiad, sy’n gallu dylanwadu’n gadarnhaol ar iechyd meddwl. Rydyn ni’n trefnu digwyddiadau anffurfiol gydag artistiaid lleol, yn ymweld ag orielau ac yn cynnal teithiau cerdded ym myd natur. Trwy ein grŵp, Ffrindiau Lens, caiff yr aelodau eu grymuso i archwilio eu mynegiant creadigol, meithrin cysylltiadau ystyrlon, a phrofi ymdeimlad o berthyn a boddhad. Trwy feithrin diwylliant sy’n rhoi gwerth ar gelfyddyd, byd natur a rhannu gwerthfawrogiad, rydyn ni’n ymdrechu i wella lles ein cymuned. O wneud hynny, ein gobaith yw ysbrydoli mwy o garedigrwydd ac empathi, a chysylltiad dyfnach â’r byd. 

Sgiliau: cynllunio digwyddiadau, gweinyddu, ymgysylltu drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ffotograffiaeth, gweithdai, ymgysylltu â’r gymuned, dylunio posteri, darlunio, logos, gwirfoddoli, lles

Previous
Previous

Interwoven Mural / Murlun wedi’i gydblethu

Next
Next

Large-scale mural for Full Colour Maindee Art Festival / Murlun ar gyfer Gŵyl Full Colour Maindee