Work
With a background in Design for Media, my career began with a focus on supporting local community non-profit projects and collaborating with artists. As a freelance photographer and filmmaker, I worked alongside respected organizations: Cardiff Metropolitan University Widening Access, Cardiff Council, Touch Trust, BHM and WMC. I also gained valuable experience in the film and TV industry, contributing to graphic design and illustration for notable productions, including “Hunky Dory” directed by Marc Evans, and “How I Live Now”, directed by Kevin McDonald. I also gained animation skills by working on a research project on Margaret Mackworth, known as Lady Rhondda, supporting the animation department at Winding Snake Productions. Recently, I had the opportunity to create map images for the award-winning film “The Humanitree” and delivered a storyboard workshop for young participants at the Media School as part of their program of film events. While my background is rooted in photography, filmmaking and drawing, my interdisciplinary background allows me to approach projects with a unique perspective, blending visual storytelling with creative research methods. This variety enhances my creative process and helps me discover new ways to express ideas and engage audiences.
Gwaith
Gyda chefndir mewn Dylunio ar gyfer y Cyfryngau, dechreuodd fy ngyrfa gyda ffocws ar gefnogi prosiectau cymunedol nid-er-elw a chydweithio ag artistiaid. Fel gwneuthurwr ffilmiau a ffotograffydd llawrydd, gweithiais ochr yn ochr â sefydliadau uchel eu parch: Tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Cyngor Caerdydd, Touch Trust, Mis Pobl Ddu, a Chanolfan Mileniwm Cymru. Cefais brofiad gwerthfawr hefyd yn y diwydiant ffilm a theledu, yn cyfrannu at waith dylunio graffeg a darlunio ar gyfer cynyrchiadau nodedig, gan gynnwys “Hunky Dory” a gyfarwyddwyd gan Marc Evans, a “How I Live Now” a gyfarwyddwyd gan Kevin McDonald. Enillais hefyd sgiliau animeiddio wrth weithio ar brosiect ymchwil ar Margaret Mackworth, sef Arglwyddes Rhondda, yn cefnogi adran animeiddio Winding Snake Productions. Yn ddiweddar, cefais gyfle i greu delweddau map ar gyfer y ffilm arobryn “The Humanitree” ac fe gyflwynais weithdy bwrdd stori i gyfranogwyr ifanc yn Ysgol y Cyfryngau fel rhan o’u rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer y ffilm. Er bod fy nghefndir mewn ffotograffiaeth, gwneud ffilmiau a lluniadu, mae fy mhrofiad rhyngddisgyblaethol helaeth yn fy ngalluogi i fynd i’r afael â phrosiectau gyda phersbectif unigryw, gan gyfuno adrodd straeon yn weledol â dulliau ymchwil creadigol. Mae’r amrywiaeth hon yn cyfoethogi fy mhroses greadigol ac yn fy helpu i ddarganfod ffyrdd newydd o fynegi syniadau a chysylltu â chynulleidfaoedd.