Illustration
My current creative practice is experimenting by learning new drawing techniques. This journey has brought me back to the core aims of my work: creating art that resonates deeply on a personal level and is rooted in the shared experiences that connect us as humans. Through this experimental phase, I have developed a black-and-white, sketch-based drawing technique and am currently delving into interpretive abstract methods. By removing colour, I focus attention on the abstract forms of the subject, fostering a connection between myself and the viewer through mood, emotion, concept, or story. This sketching approach provides the freedom to experiment and express myself creatively.
Darlunio
Ar hyn o bryd, mae fy ymarfer creadigol yn canoli ar arbrofi drwy ddysgu technegau lluniadu newydd. Yn sgil y daith hon, rwy wedi dychwelyd at amcanion craidd fy ngwaith: creu celf sy’n creu argraff ddofn ar lefel bersonol ac sydd wedi’i gwreiddio yn y profiadau rydym yn eu rhannu ac sy’n ein cysylltu ni fel pobl. Trwy’r cyfnod arbrofol hwn, rwy wedi datblygu techneg lluniadu du-a-gwyn sy’n seiliedig ar fraslunio, ac ar hyn o bryd rwy’n ymchwilio ymhellach i ddulliau haniaethol deongliadol. Drwy osgoi defnyddio lliw, rwy’n tynnu’r sylw at ffurfiau haniaethol y testun, gan feithrin cysylltiad rhyngof fi a’r gynulleidfa trwy gyfrwng awyrgylch, emosiwn, cysyniad neu stori. Mae’r dull braslunio hwn yn rhoi rhyddid i arbrofi a mynegi fy hun yn greadigol.