Photography

I have a deep passion for photography and enjoy experimenting with various techniques and styles to capture the complexities of the world around us. This allows me and viewers to  experience a deeper connection with the emotions and stories captured in the photograph. One of my most memorable commissions was working as the event photographer and filmmaker for Black History Month Wales in collaboration with BVSNW and Diverse Cymru from 2010 to 2013. I had the privilege to capture remarkable figures like Betty Campbell, poet Yasus Afari, Patti Flynn alongside vibrant performances from musicians, dancers, and artists such as Jessie Brett, Addisu Demissie, and Ballet Nimba These events inspired me to host my first solo photography exhibition at St. David’s Hall in Cardiff. Even many years later, I still enjoy looking at the vibrant event photos, which bring back positive memories of people and cultures merging and celebrating art. I am passionate about seeing my photography inspire others to explore diversity and culture through art. Each project I undertake is incredibly fulfilling, sharpening my skills and encouraging meaningful conversations. 

Link to Photography

Ffotograffiaeth 

Mae ffotograffiaeth yn agos iawn at fy nghalon ac rwy’n mwynhau arbrofi gyda gwahanol dechnegau ac arddulliau i grisialu cymhlethdodau’r byd o’n cwmpas. Mae hyn yn caniatáu i mi a’r gynulleidfa brofi cysylltiad dyfnach â’r emosiynau a’r straeon y mae’r ffotograff yn eu dal. Un o fy nghomisiynau mwyaf cofiadwy oedd gweithio fel ffotograffydd a gwneuthurwr ffilm digwyddiadau ar gyfer Mis Hanes Pobl Ddu Cymru mewn cydweithrediad â BVSNW a Diverse Cymru rhwng 2010 a 2013. Cefais y fraint o dynnu lluniau pobl nodedig fel Betty Campbell, y bardd Yasus Afari, Patti Flynn, ynghyd â pherfformiadau bywiog gan gerddorion, dawnswyr ac artistiaid fel Jessie Brett, Addisu Demissie a Ballet Nimba. Y digwyddiadau hyn ysbrydolodd fi i gynnal fy arddangosfa ffotograffiaeth unigol gyntaf yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd. Hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach, rwy’n dal i fwynhau edrych ar y lluniau bywiog o’r digwyddiadau, sy’n dod ag atgofion melys yn ôl o bobl a diwylliannau yn uno ac yn dathlu celf. Rwy wrth fy modd yn gweld fy ffotograffiaeth yn ysbrydoli eraill i archwilio amrywiaeth a diwylliant drwy gyfrwng celf. Mae pob un o fy mhrosiectau yn rhoi boddhad mawr i mi, yn fy annog i hogi fy sgiliau ac yn meithrin sgyrsiau ystyrlon. 

Dolen i Ffotograffiaeth

Previous
Previous

Projects / Projectau

Next
Next

Collaboration / Cydweithio