Creative Cardiff Poster & Animation Commission

“Thank you very much for getting involved- we absolutely love your artwork”  

- Carys, Creative Cardiff Manager

I have been selected amongst eight other artists to create the logo illustration for use on posters in a city center location, digital assets and an animation. My illustration project was centered on designing an illustration that creatively reimagined the logo, reflecting the core values of connecting artists and promoting community collaboration. Many of the locations featured in the artwork are places where I personally met artists or attended inspiring events, made the process even more meaningful. It was exciting to see some artists recognize themselves in the logo and poster design. The artwork skillfully weaves together sketch-style drawings of diverse creatives with well-known Cardiff landmarks. These figures and locations merge into an abstract form, symbolizing the dynamic energy of art and community. The final piece beautifully captures the spirit  of collaboration and celebrates the unique creativity that thrives within Cardiff’s artist community.  

Skills: Concept development, community, collaboration, logo, illustration, animation 

Comisiwn Poster & Animeiddiad Caerdydd Creadigol

“Diolch yn fawr iawn am gymryd rhan – ry’n ni wrth ein bodd â dy waith celf”

 -  Carys, Rheolwr Caerdydd Creadigol

Dewiswyd fi ynghyd ag wyth o artistiaid eraill i ddarlunio logo i’w ddefnyddio ar bosteri mewn lleoliad yng nghanol y ddinas, mewn asedau digidol ac mewn animeiddiad. Roedd fy mhrosiect darlunio yn canolbwyntio ar ddyluniad a oedd yn ailddychmygu’r logo mewn ffordd greadigol, gan adlewyrchu gwerthoedd craidd, sef cysylltu artistiaid a hyrwyddo cydweithio cymunedol. Mae llawer o’r lleoliadau sydd i’w gweld yn y gwaith celf yn llefydd ble rydw i wedi cwrdd ag artistiaid yn bersonol neu wedi mynychu digwyddiadau ble cefais ysbrydoliaeth, a gwnaeth hynny’r broses yn fwy ystyrlon byth. Roedd yn gyffrous gweld rhai artistiaid yn adnabod eu hunain yn nyluniad y logo a’r poster. Mae’r gwaith celf yn cydblethu darluniau mewn arddull braslun o amrywiaeth o bobl greadigol gyda rhai o dirnodau adnabyddus Caerdydd. Mae’r ffigurau a’r lleoliadau hyn yn asio yn ffurf haniaethol, sy’n symbol o egni deinamig celf a chymuned. Mae’r darn olaf yn crisialu ysbryd cydweithio yn hyfryd ac yn dathlu’r creadigrwydd unigryw sy’n ffynnu yng nghymuned Caerdydd o artistiaid.  

Sgiliau: Datblygu cysyniadau, cymuned, cydweithio, logo, darlunio, animeiddio 

Next
Next

Interwoven Mural / Murlun wedi’i gydblethu