About

‘‘Nature serves as a profound wellspring of inspiration within my creative practice, embedding both the simplicity and complexity of creative expression.’’

“Mae byd natur yn ffynnon ysbrydoliaeth ddifesur yn fy ymarfer creadigol, yn ymgorffori symlrwydd mynegiant creadigol a’i gymhlethdod hefyd.”

I am a Lithuania-born, interdisciplinary artist, illustrator, and photographer based in Penarth. I came to Wales in 2005 to work and develop further studies of design for media and am now fully immersed into Welsh Culture. My artistic practice is driven by an interdisciplinary approach to art and design, focusing on themes such as mental health, vulnerability, self-reflection, and wellbeing.  

My current creative practice involves experimenting with new drawing techniques. This journey has brought me back to the core aims of my work: creating art that resonates deeply on a personal level and is rooted in the shared experiences that connect us as humans.  

I am particularly interested in creating artwork for public spaces, encouraging introspection, environmental justice, sparking conversations, and inspiring change around and within us, both as an individual artist and in the context of developing collaborative projects with other artists. 

If you’re an artist or organization interested in collaborating on a project, booking a creative workshop, or just having a conversation, feel free to reach out at hello@ingak.uk

Amdanaf i 

Rwy’n artist, yn ddarlunydd ac yn ffotograffydd rhyngddisgyblaethol wedi fy ngeni yn Lithwania ond bellach yn byw ym Mhenarth. Fe ddes i i Gymru yn 2005 i weithio a datblygu astudiaethau pellach mewn dylunio ar gyfer y cyfryngau ac rwy bellach wedi fy nhrwytho’n llwyr yn niwylliant Cymru. Mae dilyn trywyddau rhyngddisgyblaethol mewn celf a dylunio yn ganolog i fy ymarfer artistig, sy’n canolbwyntio ar themâu fel iechyd meddwl, bregusrwydd, hunanfyfyrio a lles.   

Yn fy ymarfer creadigol presennol rwy’n arbrofi gyda thechnegau lluniadu newydd. Yn sgil y daith hon rwy wedi dychwelyd at amcanion craidd fy ngwaith: creu celf sy’n creu argraff ddofn ar lefel bersonol ac sydd wedi’i gwreiddio yn y profiadau rydym yn eu rhannu ac sy’n ein cysylltu ni fel pobl.  

Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn creu gwaith celf ar gyfer mannau cyhoeddus, annog myfyrdod a rhoi sylw i’r bywyd mewnol, cyfiawnder amgylcheddol, sbarduno trafodaethau, ac ysbrydoli newid o’n cwmpas ac o’n mewn, a hynny fel artist unigol ac yng nghyd-destun datblygu prosiectau ar y cyd ag artistiaid eraill. 

Os ydych chi’n artist neu’n sefydliad sydd â diddordeb mewn cydweithio ar brosiect, trefnu gweithdy creadigol, neu ddim ond cael sgwrs, mae croeso i chi gysylltu ar hello@ingak.uk

Next
Next

Values / Gwerthoedd